Croeso i Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw. Bydd y wefan hon yn eich helpu i archwilio diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd cyfoethog pum porthladd o amgylch Môr Iwerddon: Harbwr Rosslare, Doc Penfro, Abergwaun, Porthladd Dulyn a Chaergybi.
Rydym yn gwahodd busnesau twristiaeth ac addysgwyr i ddefnyddio’r wefan hon, gan gynnwys ein straeon, ein ffilmiau, ein gweithiau creadigol a’n podlediadau, yn eu ffordd eu hunain i ddatblygu deunydd marchnata a chynlluniau gwersi a theithiau newydd. Rydym wedi creu deunyddiau pwrpasol i fusnesau twristiaeth ac athrawon i’ch ysbrydoli i ddefnyddio Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw. Mae’r prosiect hefyd wedi archifo’i holl waith mewn man diogel lle bydd ar gael am flynyddoedd lawer i ddod.