Hanes
Wrth ichi deithio trwy Borthladd Dulyn heddiw rydych chi’n sefyll ar dir a oedd yn fanc tywod llanw yn yr oesoedd canol cynnar. Mae enw’r anheddiad mynachaidd ‘Dubhlinn’, sy’n golygu ‘pwll du’, yn deillio o bwll llanw cysgodol rywle yn ardal yr Angier Street bresennol.
Yn y nawfed ganrif, cafodd yr anheddiad hwn ei weddnewid gan y Llychlynwyr yn borthladd masnachu bywiog. Yn y canrifoedd wedyn, symudodd y porthladd i lan yr afon islaw Cadeirlan Eglwys Crist. Yn y pen draw, wrth i afon Liffey lenwi â llaid, daeth porthladdoedd Dalkey a Howth i’r adwy fel porthladdoedd ar gyrion Dulyn. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, llwyddodd gwaith adfer tir i weddnewid Dulyn, gan ei hymestyn tua’r dwyrain a thua’r môr. [CN1] Cafodd waliau ac amddiffynfeydd eu codi i sicrhau tir oedd newydd ei adfer Cafodd Mur South Bull ei godi ym 1753 ac ychwanegwyd goleudy Poolbeg ym 1767. Roedd llongau’n glanio yma a châi teithwyr eu cludo i’r ddinas mewn cychod rhwyfo bach.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd y porthladd yn ganolog i gymeriad morwrol Dulyn ac roedd y ddinas yn rhan o rwydweithiau ymfudo a masnachu’r ymerodraeth Brydeinig. Erbyn 1800, Dulyn oedd y drydedd ddinas borthladd fwyaf yn Ewrop.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yr ardal o amgylch y Tollty a Chei Wal y Gogledd yn darparu ar gyfer llongau teithwyr a thraffig ar draws y sianel. Byddai llongau’n dadlwytho hefyd yn Noc George a Doc Spencer (sef allfa’r Gamlas Frenhinol) y tu ôl i wal y cei. Erbyn diwedd y ganrif honno, roedd Porthladd Môr Dwfn newydd wedi’i adeiladu ym Masn Alexandra, a dyna ddechrau porthladd modern Dulyn sy’n gyfarwydd i ni heddiw.
Pethau i’w gweld a’u gwneud
Wal y Gogledd
Y ffordd orau i archwilio treftadaeth ddiwydiannol ardal Porthladd Dulyn, neu ‘Wal y Gogledd’, yw mynd yno ar droed. Wrth ichi gerdded o’r porthladd tuag at ganol y ddinas, rydych chi’n pasio depo rheilffordd mawr sy’n dyddio o 1878 ac a arferai wasanaethu’r porthladd gerllaw. Y tu ôl i’r depo hwn, sydd erbyn hyn yn cael ei alw’n Arena 3, mae sgwâr mawr sy’n gartref i lawer o fwytai, ac arhosfa’r Luas. Bydd tram Luas yn dod â chi i ganol y ddinas, ond gofalwch grwydro’r ardal cyn ichi adael!
Mae dociau Dulyn yn cynnig cymysgedd cyfoethog o dreftadaeth ddiwydiannol a phensaernïaeth fodern ochr yn ochr â strydoedd preswyl. Ar un adeg roedd y rhain yn gartref i’r docwyr a oedd yn llwytho a dadlwytho nwyddau’r porthladd.
Doc Spencer
Erbyn hyn mae gan Ddoc Spencer gymysgedd o gaffis gwych ac adeiladau swyddfa. Gofalwch alw heibio i Oriel Green on Red i brofi’r gorau o gelf gyfoes Iwerddon ac Ewrop.
Y ceiau
Mae’r ceiau yn dal yn gartref i rai llongau preswyl. Mae’r llong Cill Airne, oedd arfer cludo teithwyr ym 1961, bellach yn fwyty gyda bar. Yma fe welwch replica o’r llong enwog o oes y newyn Jeannie Johnson. Y tu mewn, mae amgueddfa sy’n adrodd hanes grymus y llong hon a’i theithwyr.
Gallwch hefyd brynu tocynnau ar gyfer Taith Cwch Darganfod Dulyn wrth ymyl y cei. Ar gwch sydd wedi’i ddylunio’n unswydd i fod yn hwylus i gadeiriau olwynion, byddwch yn hwylio o dan bontydd enwog Liffey ac yn archwilio Porth Dulyn.
Cafodd Doc George ei godi i greu mwy o lanfeydd i longau. Ar un adeg roedd warysau mawr yn ei wasanaethu. Mae’r rhain bellach yn gartref i EPIC, yr amgueddfa ynghylch ymfudo o Iwerddon sydd wedi ennill nifer o wobrau.
Ar ochr y cei y tu allan i EPIC, gofalwch stopio wrth Gofeb y Newyn Mawr a ddyluniwyd gan Rowan Gillespie Mae’r gofeb yn darlunio ffigurau esgyrnog ar eu ffordd i ymfudo ar longau fel y Jeannie Johnson.
Doc George