Five Ports on the Irish Sea
Mae Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn dathlu pum porthladd gwahanol iawn a’u diwylliannau cyfoethog o boptu i Fôr Iwerddon: Porthladd Dulyn, Harbwr Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro. Darganfyddwch a chrwydrwch y pum lle unigryw hyn trwy straeon, ffilmiau a gweithiau creadigol.
Ble ewch chi?
Mae gan y porthladdoedd hyn eu straeon a’u hunaniaeth unigryw eu hunain, ond maen nhw i gyd tu hwnt i hynny yn rhan o ranbarth Môr Iwerddon, ac yn rhan o’r un stori ddiddorol. Gwaetha’r modd, dydi’r cysylltiadau hyn ddim wedi bod yn amlwg bob amser. Maen nhw wedi eu cadw ar wahân gan ffiniau gwledydd, ffiniau rheoleiddiol a’r ffiniau hefyd o ran chwedlau, sydd wedi bodoli ers canrifoedd. Ymunwch â ni ar y daith i chwalu’r ffiniau hyn a phlymio i fyd rhyng-gysylltiedig basn Môr Iwerddon Byddwch yn barod am antur heb ei thebyg!