Abergwaun
ac
Wdig

Hanes

Tref ar lannau gogledd Sir Benfro, ym mhen deheuol Bae Ceredigion, yw Abergwaun. Mae ei enw Saesneg – Fishguard – yn deillio o’r Hen Norseg Fiskigarðr – ‘lloc dal pysgod’ – ac yn datgelu hanes hir y dref fel porthladd masnachu. Roedd nwyddau fel calchfaen, glo, llechi, gwlân a bwydydd i gyd yn mynd trwy’r harbwr yma.

Am ei fod yn ffynnu, daeth y porthladd i sylw ysbeilwyr: ym 1779, cipiodd herwlong o’r enw Black Prince long leol, gan fynnu pridwerth o £1,000. Pan wrthododd pobl y dref dalu, taniodd yr herwlong ei magnelau ar Abergwaun, gan ddifrodi tai lleol ac Eglwys y Santes Fair (a adnewyddwyd wedyn ac sy’n gartref i ffenestri lliw cain). Adeiladwyd Hen Gaer Trwyn y Castell mewn ymateb i’r digwyddiad hwn: oddi yma yr honnir i’r Cymry danio magnelau ar luoedd Ffrainc[R[1] yn ystod y ‘Glaniad Olaf’ ym mis Chwefror 1797. 7. Dan arweiniad y Gwyddel Americanaidd William Tate, glaniodd Légion Noire Ffrainc ar Drwyn Carregwastad ar 22 Chwefror Roedd tua 1,400 ohonyn nhw, ond doedd dim trefn arnyn nhw, ac fe ildiodd y cyfan yn ddiamod ar Draeth Wdig ar fore’r trydydd diwrnod.

Mae enwogion Abergwaun yn cynnwys yr awdur a’r hanesydd Richard Fenton (1747-1821), y cyflwynodd ei Tour of Pembrokeshire dwristiaid cynnar i fegalithau, eglwysi a henebion ei sir enedigol. Bu’r llenor a’r sylwedydd ffraeth ar fywyd cefn gwlad D.J. Williams (1885-1970) yn athro yma. Daeth Richard Burton ac Elizabeth Taylor yma ym 1971 i serennu yn yr addasiad ffilm cyntaf erioed o Under Milk Wood Dylan Thomas.

Wrth i’r hen borthladd ddirywio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth dyfodiad y rheilffordd yn 1906 â llongau trawsiwerydd i Wdig gerllaw, lle cafodd harbwr newydd ei adeiladu a lle mae’r Stena Line bellach yn rhedeg ei wasanaeth i deithwyr i Rosslare.

Defnyddiwch ap Port Places wrth grwydro Abergwaun neu fynd ar Daith Gerdded y Goresgyniad Olaf.

For privacy reasons YouTube needs your permission to be loaded. For more details, please see our Privacy Policy.

Pethau i’w gweld a’u gwneud

Bron 200 mlynedd ar ôl digwyddiadau’r Glaniad Olaf, daeth y gymuned ynghyd i greu tapestri sy’n coffáu’r stori. Gallwch ei weld yn Neuadd y Dref.

Mae llawer o gaffis a bwytai lleol. Mae’r Royal Oak, tafarn hanesyddol, wedi bod yn gweithredu yn Abergwaun ers bron 200 mlynedd. Credir mai yma y llofnododd y Ffrancwyr a’r Cymry gytundeb heddwch ar ôl y glaniad ym 1797, er mai tŷ cyffredin oedd yno ar y pryd, yn hytrach na thafarn.

Caffis

&

Bwytai

 

 

 

Celfyddydau

&

Theatr

 

 

 

Mae Theatr Gwaun yn ganolfan gelfyddyd a pherfformio fendigedig yng nghalon y gymuned. Ar eich ffordd o’r Royal Oak gallwch ymweld â Chanolfan Gelf Gorllewin Cymru, lle celfyddydol ffyniannus sy’n cael ei redeg gan y teulu Pepper.

Llwybr Arfordir Penfro

Oddi yma mae modd cyrraedd Llwybr Arfordir Penfro, sy’n 299 km o hyd, neu ddarn bach ohono os nad yw cerdded y cyfan at eich dant.

Darganfyddwch porthladdoedd eraill

Porthladd Dulyn
Caergybi
Doc Penfro
Harbwr Rosslare