Agorwch Gil y Drws ar Fyd o Straeon am y Porthladdoedd a’u Cymunedau
Dewch i edrych ar ddyfnder hanes a threftadaeth pum porthladd fferi gweithredol o amgylch Môr Iwerddon: Porthladd Dulyn, Harbwr Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro. Mae’r ap hwn yn caniatáu ichi lawrlwytho nifer o brofiadau wedi’u curadu, bob un yn cynnig gweledigaeth o fywyd, creadigrwydd, hanes a threftadaeth y porthladdoedd.
Daw’r deunydd yn yr ap hwn gan aelodau cymunedau, artistiaid ac ymchwilwyr yn y porthladdoedd o ystod eang o gefndiroedd sy’n eich galluogi i archwilio’r porthladdoedd mewn ffordd hollol unigryw.
Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho am ddim a dim ond 17.5 MB o le y mae’n ei gymryd. Er mwyn i’r ap weithio ar ei orau wrth ichi grwydro, gofalwch fod eich lleoliad wedi’i osod ar ‘Always On’ wrth ddefnyddio’r ap.