Aeth Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw ati i sefydlu Pobl y Porthladdoedd: Rhwydwaith Busnes Treftadaeth a Thwristiaeth Môr Iwerddon er mwyn creu synergeddau newydd a helpu gwaith cyd-hybu rhwng busnesau yn y porthladdoedd ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Gan weithio gyda Bofin Consultancy, cafodd cyfres o adnoddau eu creu i helpu busnesau porthladdoedd i annog twristiaid i ddarganfod eu porthladd trwy adrodd straeon treftadaeth grymus. Gallwch ddarganfod ystod o straeon treftadaeth ar y wefan hon trwy chwilio fesul porthladd neu fesul thema.
Datgloi Potensial Porthladdoedd a Thwristiaeth

Cynaeafu
Adnoddau Gwerthfawr:
Denu sylw ymwelwyr gyda straeon, ffilmiau a gweithiau creadigol a fydd yn dal eu dychymyg ac yn hyrwyddo eich busnes chi a’r ardal gyfagos.

Ailddefnyddio ac Ailgymysgu
Trysorfa o gynnwys ar gyfer creu deunyddiau marchnata unigryw a gwych fydd yn sicrhau bod eich busnes twristiaeth chi yn sefyll allan.

Gwireddu
Eich Potensial
Darganfod safbwyntiau newydd a syniadau arloesol fydd yn cyfoethogi eich strategaethau busnes ac yn mynd â phrofiad yr ymwelydd gam ymhellach.

Isod ceir canllawiau fideo byr sy’n dangos sut i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau sy’n gysylltiedig â hybu twristiaeth drwy ddefnyddio adnoddau a grëwyd gan Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu cynnwys at ap Port Places, adrodd straeon gwych gyda’r cyfryngau cymdeithasol ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau rhwydweithio.