CAERGYBI
Hanes
Caergybi yw tref fwyaf Ynys Môn ac mae’n gorwedd ar Ynys Gybi Mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel porthladd mawr a’i chysylltiad fferi ag Iwerddon ers canrifoedd
Mae anheddiad Caergybi ac Ynys Gybi yn estyn mor bell yn ôl â’r cyfnod Neolithig. Mae gan yr ardal o amgylch Caergybi lawer o olion cytiau crwn, siambrau claddu a meini hirion
Yn y bedwaredd ganrif, cafodd caer filwrol Rufeinig ei sefydlu yma. Mae archaeolegwyr yn credu y gallai’r gwersyll hwn fod wedi’i gysylltu â’r gaer yn Segontium, sydd wedi’i lleoli yng Nghaernarfon heddiw.
Yn y chweched ganrif, credir bod Cybi Sant wedi sefydlu eglwys a mynachlog ar y gwersyll segur. Dros y canrifoedd canlynol, tyfodd y dref o gwmpas y safle hwn. Mae’r enw Caergybi yn adlewyrchu’r gwreiddiau Rhufeinig a Christnogol cynnar hyn.
Ers o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg, Caergybi oedd prif borthladd gogledd Cymru ar gyfer hwylio i Iwerddon. Yn sgil cwblhau lôn bost Thomas Telford i Lundain ym 1828 a dyfodiad y rheilffordd (1848) cafodd twf y dref hwb mawr.
Ym 1819, cludodd yr agerlongau cyntaf bost a theithwyr rhwng Caergybi a Kingstown (Dún Laoghaire heddiw). O ganlyniad, daeth y gwasanaeth yn fwy dibynadwy a chynyddu’r traffig ar draws Môr Iwerddon.
Yn y pen draw, bu’n rhaid datblygu harbwr newydd, llawer mwy a allai gysgodi hyd at 1,000 o longau yn ystod stormydd difrifol. Y canlyniad oedd adeiladu morglawdd enfawr Caergybi sy’n 2.39km o hyd. Dyma’r morglawdd hiraf yn Ewrop hyd heddiw.
Beth i’w weld a’i wneud
Mae’n well crwydro tref Caergybi ar droed, ac efallai y byddwch am ddefnyddio’ch beic neu’ch car i gyrraedd rhai o’r mannau ar y cyrion a’r tu hwnt.
Yn ymyl y porthladd, fe welwch chi obelisg yn sefyll ar fryn bach. Cafodd y gofeb hon ei chodi i goffáu John Macgregor Skinner (1761-1832), capten cwch post a oedd, er ei fod yn ddall mewn un llygad ac wedi colli braich yn y Llynges, yn cefnogi llawer o achosion cymdeithasol.
Gofalwch wisgo esgidiau cadarn wrth ichi ddringo o Turkey Shore Road. O waelod yr heneb, gallwch fwynhau golygfa wych dros y dref a’r porthladd.
Porthladd fferi
Lleoedd hanesyddol
Mae Pont fodern y Porth Celtaidd yn mynd â chi’n uniongyrchol o’r orsaf reilffordd i ganol tref Caergybi. Dilynwch Stryd y Farchnad lle nad oes ceir yn cael mynd, i fyny’r allt a byddwch yn cyrraedd Eglwys Cybi Sant a mynwent hanesyddol sydd o fewn waliau Rhufeinig nodweddiadol y gwersyll hynafol. Ewch yn eich blaen i fyny i ben y dref a byddwch yn cyrraedd y Ganolfan Gelfyddydau lewyrchus, Ucheldre, mewn adeilad trawiadol, hen gwfaint Catholig – cewch fwynhau arddangosfeydd, ffilmiau, dosbarthiadau a phaned!
Os hoffech weld mwy o hanes morwrol Caergybi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’r Amgueddfa Forwrol ar Draeth Newry. Ar ôl eich ymweliad, ewch am dro hamddenol ar hyd y promenâd tuag at forglawdd enwog Caergybi, yr hiraf o’i fath yn Ewrop. Mae Parc Gwledig Morglawdd Caergybi wrth droed Mynydd Twr yn syfrdanol. Mae’r parc gwledig yn hwylus i gerddwyr a phobl sy’n hoff o fyd natur o bob oed a gallu.
Os ydych chi’n fwy anturus, dilynwch y llwybrau cyhoeddus i gopa Mynydd Twr a darganfod ei hanes yn Oes y Rhufeiniaid a’r Oes Efydd
Cewch olygfeydd ysblennydd dros Ynys Môn ac Eryri yn wobr. Ar ddiwrnodau clir, gallwch hyd yn oed weld mynyddoedd Wicklow ar y gorwel.
Darganfod bryniau