
Sgroliwch i lawr am fersiwn Cymraeg
These recent months have been very hard on the Arts in Ireland and Wales and the Ports Past and Present Project is delighted to announce the awarding of twelve commissions of £5,000 each to creative practitioners based in Ireland and Wales.
Creative Connections commissions will develop work that reflects the rich cultural and historic heritage of the port communities around Dublin Port, Holyhead, Fishguard, Rosslare and Pembroke Dock, along with the journeys taken across the Irish Sea between these places. The proposed work covers a wide range of media, from sound pieces and film to sculpture, postcards, poetry, photography and nature writing. Each commission will be produced in close conversation with the port communities and be supported by the wider work of Ports, Past and Present.
Our Creative Connections recipients are Rua Barron and Hannah Power, David Begley, Zillah Bowes, Gillian Brownson, Kathy D’Arcy, Jon Gower, Julie Merriman, Peter Murphy, Augustine O’Donoghue, Marged Pendrell, Peter Stevenson and Jacob Whittaker, and Jaqueline Yallop. Further information about their projects can be found on our website: https://portspastpresent.eu/.
Ports Past and Present seeks to investigate the heritage of these ports and the Irish Sea crossings, and create common understanding between these communities. The project team and the artists involved are interested in hearing from anyone with a story to share. You can email us at ports@ucc.ie and we will get in touch.
‘Ports, Pasts and Present: Cultural Crossings between Ireland and Wales’ – is a joint initiative with University College Cork (UCC) and Wexford County Council in Ireland, and in Wales with Aberystwyth University and the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies at the University of Wales Trinity Saint David.
The Creative Connections strand is run by the University of Wales Centre for Welsh and Celtic Studies and Wexford County Council. If a member of the press would like further information on these awards you can contact mary-ann.constantine@cymru.ac.uk.
The project is funded by the European Regional Development Fund through the Ireland Wales Cooperation programme and is led by UCC.

Mae’r misoedd diwethaf hyn wedi bod yn rhai caled iawn i’r celfyddydau yng Nghymru ac Iwerddon, felly mae’n bleser gan brosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw gyhoeddi bod deuddeg comisiwn gwerth £5,000 yr un wedi’u dyfarnu i artistiaid sy’n gweithio yn y ddwy wlad.
Bydd y comisiynau hyn gan Creative Connections yn gyfrifol am ddatblygu gwaith a fydd yn adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol cymunedau’r porthladdoedd yng nghyffiniau Caergybi, Abergwaun, Doc Penfro, Rosslare a Phorthladd Dulyn, yn ogystal â’r teithio a fu o’r naill le i’r llall dros Fôr Iwerddon. Bydd y gwaith a gynhyrchir yn cynnwys ystod eang o gyfryngau, o sain a ffilm i gerflunwaith, cardiau post, barddoniaeth, ffotograffiaeth a llên natur. Datblygir pob comisiwn mewn cydweithrediad agos â chymunedau’r trefi dan sylw ac fe’i cefnogir gan waith ehangach Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw.
Y sawl sydd wedi derbyn y comisiynau yw: Rua Barron a Hannah Power, David Begley, Zillah Bowes, Gillian Brownson, Kathy D’Arcy, Jon Gower, Julie Merriman, Peter Murphy, Augustine O’Donoghue, Marged Pendrell, Peter Stevenson a Jacob Whittaker, a Jaqueline Yallop. Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â’u prosiectau ar ein gwefan: https://portspastpresent.eu/.
Nod Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yw ymchwilio i dreftadaeth y porthladdoedd hyn ac i’r teithiau ar draws Môr Iwerddon, a thrwy hynny feithrin cyd-ddealltwriaeth rhwng y cymunedau. Byddai’n dda gan dîm y prosiect a’r artistiaid glywed gan unrhyw un sydd â stori i’w rhannu. Gallwch anfon neges i ports@ucc.ie a byddwn yn cysylltu â chi.
Menter ar y cyd rhwng Coleg Prifysgol Corc a chyngor sir Loch Garman (Wexford) yn Iwerddon ac, yng Nghymru, Prifysgol Aberystwyth a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Cysylltiadau Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru’.
Arweinir cynllun Cysylltiadau Creadigol gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a chyngor sir Loch Garmon. Os yw aelod o’r wasg am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r comisiynau a ddyfarnwyd, gallwch gysylltu â mary-ann.constantine@cymru.ac.uk
Cynhelir y prosiect dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru, a than arweiniad Coleg Prifysgol Corc.
